Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

OSWALD (gan ddal y sigâr y tu cefn iddo): Ond, fy mam, yr wyf yn teimlo mor siriol yno. (Gan ei hanwylo.) Cofiwch yn awr, gymaint o beth yw i mi, newydd gyrraedd adref, gael eistedd wrth fwrdd fy mam, yn nhŷ fy mam—a bwyta ymborth iawn fy mam.

MEISTRES ALVING: Fy machgen annwyl i!

OSWALD (braidd yn ddisylw, gan symud o gwmpas a mygu): Ac heblaw hynny, sut yr ymdarawaf yma? Nid oes gennyf ddim ar y ddaear i'w wneud——

MEISTRES ALVING: Dychmyga rywbeth i'w wneud——

OSWALD: Yn y tywydd trymllyd hwn? Dim heulwen drwy gydol y dydd? (Cerdda 'n ol a blaen.) Och, ie—hynny—bod heb allu gweithio—!

MEISTRES ALVING: Hwyrach nad dyfod adref oedd y peth goreu i ti.

OSWALD: Eto, fy mam, yr oedd yn rhaid i mi ddyfod.

MEISTRES ALVING: Ie, ond buasai 'n ddeng waith gwell gennyf fi heb y pleser o'th gael adref, na'th fod ti——

OSWALD (gan sefyll wrth y bwrdd): Ond dywedwch i mi, 'Mam, mewn difrif, a ydyw 'n gymaint o bleser i chwi fy nghael i adref?

MEISTRES ALVING: A ydyw 'n bleser i mi!