Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MEISTRES ALVING (gan gyfodi): Rhaid iti siarad yn blaen, Oswald!

OSWALD (gan ei thynnu ato): Dowch, 'mam, a cheisiaf esbonio i chwi. Cwynais fy mod wedi blino ar ôl y daith

MEISTRES ALVING: Do, a beth wedyn?

OSWALD: Ond nid dyna 'r drwg. Nid rhyw flinder cyffredin——

MEISTRES ALVING (gan geisio cyfodi): Wyt ti ddim yn wael ynteu, Oswald?

OSWALD (gan ei thynnu ato drachefn): Dowch, 'Mam. Cymerwch y peth yn dawel. Nid wyf mewn gwirionedd yn wael—nid y peth a elwir yn gyffredin yn waeledd. (Gan ddodi ei ddwylaw o bobtu i'w ben). 'Mam, fy ysbryd i sydd wedi darfod wedi ei andwyo—ni allaf byth weithio eto! (Cuddia ei wyneb a'i ddwylaw, dyd ei ben ar ei glin, a thyrr i feichio wylo.)

MEISTRES ALVING (yn welw a chrynedig): Oswald! Edrych arnaf! Na, na, nid gwir hynny!

OSWALD (gan edrych yn synn arni): Ni allaf byth weithio eto! Byth!—byth! Marw yn fyw! 'Mam, fedrwch chwi ddychmygu am rywbeth mor arswydus?

MEISTRES ALVING: Fy machgen druan! Sut y daeth yr aflwydd hwn arnat?

OSWALD (gan gyfodi yn syth): Ie, dyna yn union yr hyn na fedraf fi mo'i ddeall na'i amgyffred. Ni