bum i erioed yn byw bywyd ofer. Mewn ystyr yn y byd. Ni buasech yn disgwyl hynny amdanaf, 'Mam! Ni wneuthum i mo hynny!
MEISTRES ALVING: Naddo, mi wn, fy machgen!
OSWALD: Ac eto, daeth y peth hwn arnaf! Yr aflwydd arswydus hwn!
MEISTRES ALVING: Ond, mi ddoi yn well eto, fy machgen annwyl i. Nid yw ond effaith gweithio'n rhy galed. Gelli fod yn sicr.
OSWALD (yn drist): Felly y gobeithiwn innau ar y dechreu; ond nid dyna 'r gwir.
MEISTRES ALVING: Dywed y cwbl wrthyf o'r dechreu i'r diwedd.
OSWALD: Mi wnaf.
MEISTRES ALVING: Pa bryd y teimlaist oddi-wrtho gyntaf?
OSWALD: Yn fuan wedi i mi fod adref y tro diweddaf a mynd yn fy ôl i Baris. Cefais gur ofnadwy yn fy mhen—yn fy ngwegil y rhan fwyaf, mi gredaf. Fel pe buasai gylch o haearn am fy ngwar a'm pen yn fy ngwasgu.
MEISTRES ALVING: Ac yna?
OSWALD: Ar y dechreu, gobeithiwn nad oedd ond y cur y byddwn yn ei gael yn fy mhen pan oeddwn yn blentyn?
MEISTRES ALVING: Ie, ie.
OSWALD: Ond nid dyna ydoedd. Deellais hynny yn fuan. Ni allwn weithio mwy. Yr