oeddwn ar fedr dechreu paentio llun newydd mawr; ond yr oeddwn fel pe buasai pob nerth wedi darfod ynof; yr oeddwn fel pe buaswn wedi fy nifetha; ni allwn ddwyn fy meddyliau at ei gilydd; dim gobaith—popeth yn troi mewn cylch. Ah, cyflwr ofnadwy ydoedd! O'r diwedd euthum at y meddyg—ac yna, ganddo ef, cefais y gwir.
MEISTRES ALVING: Beth yw dy feddwl di?
OSWALD: Un o'r meddygon goreu yn y ddinas ydoedd. Bu raid i mi adrodd fy mhrofiad iddo; ac yna, dechreuodd ofyn lliaws o gwestiynau i mi, cwestiynau y tybiwn i nad oedd a wnelent ddim â'r peth. Nid oeddwn yn deall pa beth a fynnai 'r dyn
MEISTRES ALVING: Wel?
OSWALD: Ac o'r diwedd, dyma a ddywedodd: Cawsoch y cyfansoddiad pydredig hwn cyn eich geni;—ie, dyna 'r union air a lefarodd—" ver-moulu."
MEISTRES ALVING (yn synn): Beth oedd ei feddwl?
OSWALD: Nid oeddwn innau yn deall ar y dechreu, a gofynnais iddo egluro ei feddwl. Ac yna, dywedodd yr hen Gynig—(gan gau ei ddwrn)-Ah!-
MEISTRES ALVING: Beth a ddywedodd?
OSWALD Meddai: Dielir pechodau'r tadau ar y plant.