MEISTRES ALVING (yn gwasgu ei dwylaw, gan gerdded o gwmpas mewn ymdrech amlwg, ond heb ddywedyd gair).
OSWALD (ar ol ychydig ddistawrwydd, gan ymgynnal ar ei benelinoedd): Pe buasai 'n rhywbeth wedi ei etifeddu,—rhywbeth na buaswn yn euog o hono fy hun. Ond hyn! Dedwyddwch dyn ei hun—ei iechyd-popeth yn y byd—ei ddyfodol—ei fywyd gwario'r cwbl mor waradwyddus, mor ddiddiolch, mor ofer! Ofnadwy!
MEISTRES ALVING: Na, na, fy machgen annwyl i; y mae hynny yn amhosibl! (gan blygu uwch ei ben). Nid yw cyn waethed arnat ag yr wyt yn ofni.
OSWALD: O, ni wyddoch—(gan neidio ar ei draed). Ac wedyn, 'Mam, fod yn rhaid i mi beri 'r holl helbul yma i chwi! Pa sawl gwaith y dymunais ac y gobeithiais nad oeddych yn fy ngharu gymaint!
MEISTRES ALVING: Myfi! Oswald, fy unig fab! Yr unig un sydd gennyf yn y byd; yr unig un y mae f'enaid wedi ymglymu amdano!
OSWALD (gan afael yn ei dwy law a'i chusanu): Ie, ie, mi welaf y cwbl. Pan fyddaf adref yma, gyda chwi, mi welaf hynny. A dyna'r peth chwerwaf i mi, yn wir.—Ond, bellach, dyma chwithau 'n gwybod. Na soniwn ragor am y peth heddyw. Ni wiw i mi byth feddwl yn hir amdano