MEISTRES ALVING: Eistedd. (Eistedd Regine ar gadair wrth ddrws yr ystafell fwyta, a'r gwydr gwag yn ei llaw o hyd.) Oswald, pa beth yr oeddit yn mynd i'w ddywedyd am lawenydd bywyd?
OSWALD: Ie, llawenydd bywyd, 'Mam—ychydig a wyddoch am dano yn y tŷ hwn. Ni byddaf byth yn ei brofi yma.
MEISTRES ALVING: Ddim hyd yn oed pan fyddi gyda mi?
OSWALD: Na byddaf byth, pan fwyf gartref. Ond nid ych chwi yn deall hynny.
MEISTRES ALVING: Eto, eto, gobeithiaf y dof i ddeall yn y man—yn awr!
OSWALD Dyna—ie, dyna lawenydd gwaith hefyd. Ie, yr un peth yw hynny, yn y bôn. Ond ni wyddoch ddim am hynny yma chwaith.
MEISTRES ALVING: Hwyrach dy fod yn iawn yn hynny. Oswald, gad i mi glywed rhagor.
OSEWALD: Ie, fy meddwl i yw mai 'r peth a ddysgir i chwi yma yw hyn—mai melltith a barn pechod ydyw gwaith, ac nad yw bywyd ond rhywbeth truenus, ac mai goreu i ddyn po gyntaf y caffo wared o hono.
MEISTRES ALVING: Glyn gofidiau, ie. Ac eto, gwnawn ef yn gywir a gonest.
OSWALD: Ond ni ŵyr pobl draw acw ddim am beth o'r fath. Nid oes yno neb yn credu 'r fath ddysgeidiaeth. Yno, llawenydd digymysg ydyw