Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

94 O dan lewyrch heulwen fry, Yn ymffurfio ' n goron gu, Arylili; Blentyn bychan, boed heb rith Dy foesau da, fel dysglaer wlith Ar y lili. Arogl pêr a hyfryd iawn Ddyry 'r lili, Yn y maes àr hafaidd nawn, Serchog lili ; Cyn ei gwel'd dàn gysgod clyd, Lle blodeua ' n dêg ei phryd , Arogl mwyn a dd'wed o hyd Lle mae'r lili ; Blentyn bychan, y mae swyn Mewn enw da, fel arogl mwyn Gan y lili. Blentyn bychan, yn y llyn Gwêl y lili ; Yno tŷf fel rhosyn gwyn, Brydferth lili ; Pan y cesglir hon o'r lli' , Chwala 'r dŵr o'i monwes hi, Fel rhyw berlau cain eu bri , Perlau'r lili ; Blentyn bychan, gwyn dy liw, Gâd o'th ôl rinweddau gwiw, Fel y lili. IORWERTH GLAN ALED