CANTRE'R GWAELOD
Y wawr oedd dêg, a gwên yr haul
Yn araul ar y bryndir,
A'r defaid, gyda'r wyn di-rol,
Yn lloni dol a llwyn-dir.
Golygai'r amaeth egin chweg
Ei dyddyn teg a ffrwythlon;
A'r plant yn chwareu'u campau cu,
Neu'n casglu rhôs a meillion,
A llawer lodes deg ei gwawr
A rodiai'r glwyswawr lwybrau;
Gan wrando cainc yr adar cu,
Fal engyl fry ar gangau.
Nis gwyddent fawr fod barn yn d'od
Ar feddwdod y trigolion,
A thawai tôn pob melus dant,
Ar fyr drwy'r Gantref hylon.
Ac wele'r noson twrdd a ddaeth,
I dori'r afiaeth hwyrfryd;
Mal camrau milwyr fyrdd i'r gâd,
Neu ruad taran dromfryd.
"Ust clywch!" medd un o'r ddawns mewn braw
"Pa grochru draw sy'n canlyn"
Ond megis cyn y dylif gynt,
Dylynant lais y delyn.
Y rhai mewn cwsg, deffroant hwy,
Gan godi drwy eu harswyd:
Atebai'r gwynt a'r môr eu llef,—
Eich argae gref a ddrylliwyd!
Oer ddychryn gwrm a ddelwai,u gwedd,
Mal cyrff o fedd edrychent!
Y gwyr a'r gwragedd ffoent y'nghyd,
A'r plant o'r cryd hwy godent.