Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

96 A rhuthrai'r môr o'u deutu'n rhoch Gwnai'r glenydd croch ddofn adsain Pob tòn, fal llew a gorwyllt guwch, Yn glynu uwch y gelain . y Fe wylltiai'r llu yn llwm eu hynt, Y gawrwynt a'u gwatwarai; A gwaeddai'r gwych a llefai'r gwan , 7. Fe'n boddir dan y tonau .” Ac yno'r oedd y famaeth wan A’i baban ar ei dwyfron ; Ond ni fedd nerth na man i ffoi, Och ! rhaid ymroi i'r eigion ! Na ! nis gall neb waredu'n awr Y dorf o’u dirfawrhelyut ; Na dim ond gair yr Iôr droi'n ol Y môr a'i nerthol wrthwynt. Y farn ofnadwy arnynt ddaeth Mae'u hafiaeth wedi dirwyn ; Trugaredd rad na gobaith gaid I'r diriaid ar oer derfyn. Y boreu ddaeth fel cynt yn deg, Glwys adeg lawer oesau ; Ond Cantre'r Gwaelod, gynt mor dlusy Y môr sydd dros ei muriau ! . Ei gerddi per i'r pysg sydd bau, A'r llongau hael yn hwylio ; Ond morwr sar heb wybod sydd Fod llys a thretydd dano. O boed in ' gofio mai'r un Duw Sy'n awr yn llywio'r gwledydd, Addolwn ef,-casawn y drwg , Nis gyr un gwg i'n gorfydd. GWENSFRWI