Y DDAU BLENTYN AMDDIFAD.
Fy ngherbyd safai, ar fy nhaith,
Unwaith wrth westty bychan,
Pan oedd gwên oleu'r heulwen glaer
Yn euro caer y dreflan.
Wrth weled pawb o'm cylch â'u bryd
Ar dawel gyd-noswylio,
Aethum i gladdfa oedd gerllaw
I ddistaw ddwys fyfyrio.
Dan briddell las, y tlawd yn llon
Ro'i hun i'w fron glwyfedig;
Ond meini cerf o farmor trwch
A guddient lwch pendefig.
Wrth fedd, dan gysgod ywen grin,
Dau blentyn oedd yn wylo,
Mewn ing a hiraeth ar y pridd,
Lle'r oedd eu mam yn huno.
Er fod y ddau mewn newyn mawr,
Ar lawr 'roedd darn o fara;
Edrychent arno weithiau'n syn,
Er hyn ni wnaent ei fwyta.
"Fy anwyl blant! gwnewch ddweyd i mi
Pam 'rych chwi mewn cyfyngder,
Ac yn gwastraffu'r bwyd eich dau,
A chwithau mewn fath brinder?"
Atebai'r bach, mewn gwylaidd dôn,
A'i heilltion ddagrau'n llifo,—
"Yn wir yr ym mewn eisiau llym,
Heb ddim i'w ofer-dreulio.
"Troi'n eneth ddrwg mae Mair fy chwaer,
'Rwy'n daer am iddi fwyta;
Ni chafodd damaid heddyw'n wir,
A dir, hi bia'r bara."