Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

101 " "Ond os na ddychwel byth eich tad , " Cewch Dduw yn Geidwad tyner ; """Mae ef i bob amddifad tlawd " Yn dad a brawd bob amser.' " Yna, ar ol ymdrechu'n gu " I sychu'n dagrau chwerw, " Cusanodd ni, wrth droi 'i phen draw, "Gangodi'illawamarw! " Ein hanwylfam ni chawn byth mwy " I'n harwain trwy ofidiau ; " Ac ofni'r ym, mewn dirfawr fraw, " Na ddaw ein tad byth adre'. " Er wylo yma lawer dydd " Mewn hiraeth prudd am dano, " Ac edrych draw a welem neb " Yn d'od—yn debyg iddo. " Er clywed fod y môr yn mhell, "Tybiem mai gwell oedd myned, " Os gallem gyraedd yno'n dau, "Ycaem ynglauei weled. " Dan wylo aethom, law yn llaw, "Trwy wynt a gwlaw a lludded, " Gan droi yn wylaidd i bob ty " I holi'r ffordd wrth fyned . " Gwnai rhai, dan wenu, ymaith droi , " Heb roi i ni ddim cymhorth ; " Och'neidiai'r lleill wrth wrando'n cwyn, “ Gan roddi'n fwyn in' ymborth. " Ond erbyn gwel'd y môr mawr draw, " Gwnaeth dirfawr fraw ein llenwi ; " Ac ofni'r ydym fod ein tad " Anwylfad wedi boddi !