Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

110 Y truan bach mae troion byd Mor ynfyd hefyd ofer ; Yn dwyn dy feddwl , beth a wnai ; Nid byth y cai di Amser. Pwy mor ffol a dd'weda, " y byd "Sydd imi o hyd yn flinder ?" Ni fydd hyd dy fyd di fawr, Oes genyt awr o Amser.

Dyfyrwch a phleserau byd, Eu cael i gyd a'u harfer Pa beth a dalent, wagedd mawr ? Rhyw fynyd awr yw Amser. 'Dyw oes y byd ond ysbaid bach, Rhyw leiach yw o lawer Yroesaroediddynifyw, A hyny yw ei Amser. Pan nofi hwnt gagenfôr mawr Mewn chwerw dirfawr drymder, Y mae rhyw dorf, a'i hechryn gri Yw, " Gwae fi golli Amser." Ni fyddaf faith , ni chanaf fi , Rhag bod i ti yn flinder ; A phe b'ai y gân yn fwyn, Ni fynaf ddwyn dy Amser. Mr. ELLIS OWEN.