Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

112 Oferedd trwy'r anrhaith yw teithio'r don flong , Y fflam annhrugarog yw Llywydd y llong ; Ai'r mwg yn drwchgrychog uwch uwch ar wahân , O Dduw, peth ofnadwy yw trengu mewn Tán ! Yn unig mewn trallod, yn unig ar li, Tad mawrpob trugaredd, ein gobaith wyt ti! Yn brudd, ac ymroddgar, ond diofn eu bron, Bad bach ollyngasant, fel brychyn i'r don , Y Fam elai'ngyntaf, a'i phlentyn mewn llwydd, Da gwyddai'i chofleidiad ymwềnai'n ei gwydd ; Oer, oer oeddy nos fel y Ilusgid bwy'n rhydd A niwliog y llewyrch ar wawr fore'r dydd, Erfynient am oleu ;-ond yn y pryd- nhawn, Yr haul tros y dyfroedd dywynai'n degiawn, Hoil Mae Hwyl! Hoi ! Mae Hwyl ! Medd dyn uwch Hoi ! Mae Hwyl !Troisant lygaid yn llawen tros for, Hi a'n gwêl ! Hi a'n gwel ! Mae'r arwydd i'r làn, Mae'n dyfod hyd atom , mae'n dyfod hydatom Mae'n dyfod hyd atom, mae'rarwydd i'r làn, Mawl Dduw ! Mawl Dduw ! Ymiach ! CYF. R. Dou. y côr, DINYSTR BYDDIN SENNACHERIB . а O fras fro Assyria, y gelyn, fel blaidd, Ymdorai i'r gorlan er difa y praidd ; A'i lengoeddmewn gwisgoedd o borffor ac aur, Wrth hulio glyn Salem , a'i lliwient yn glaer. Eu harfau o hirbell a welid o'r bron Fel llewyrch serfyrddiwn ar frig y werdd dòn ; A thrwst eu cerddediad a glywid o draw, Fel rhuad taranau trwy'r wybren gerllaw . Eu chwifiawg fanerau, cyn machlud yr haul, A welid fel coedwig dan flodau a dail ; Eu chwifiawg fanerau, ar doriad y wawr, Fel deiliach gwywedig, a bulient y llawr, Daeth angel marwolaeth ar edyn y chwa, у Gan danllyd anadlu i'w gwersyll ei bla,