Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

115 CANIG SERCH . Oddiar y wybr pan y bo, Cymylaueirian lu, Yn ffurfio hardd amryliw do, Troi'm trem yn anhawdd sy.. Anhawdd i'm droi fy nhrem yn ol Oddiar y dagrau gwlith Arianant wyneb gwyrdd y ddol Arol y gawod fith. Mae'n hoff i'm dremio ar y llwyn Pan fyddo'i wyrddion ddail O flaen yr awel esmwyth fwyn, Yn chwareu bob yn ail. Hoff genyfweld yr haul o draw Yn machlud dros y bryn, A'r llechwedd coediog sydd gerllaw Mewn ardeb yn y llyn. Ond balm ni r'ont i'r galon friw Sy'n cael ei hysu'n gudd, Gan danbaid serch at eneth wiw, Swyn yn ei henw sydd. Mae'n byw mewn bwth yn nghwr y twy Mewn swynol fan ddigur, Lle cân y fwyalch emyn fwyn, у A byw mae symledd pur. o