Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

119 Y FENYW DWYLLEDIG. Y gwynt un noswaith chwythai'n llym ,-- Yn drwm disgynai'r gwlaw ; Och'neidiai'r crinion goed yn drist, Tra heibio'r aeth mewn braw Rhyw fenyw gyda mynwes flin Hi ruthrai drwy yr erchyll hin. Ei gwyneb ieuanc teg a hardd, Nidydyw megis cynt ; Y prydferth wallt fu’n ofal mam , Ymddrysodd yn y gwynt; Ei dirgel feiau nos a dydd, Sy'n creulon rwygo'i mynwes brudd. Ni fedd ei llygaid ddeigryn mwy. Ymwylltiant yn ei phen ; Eiheuog drem ddyrchafa fry I'r dywell wgus nen; A thaer erfynia ar y mellt I rwygo'i phabell wan yn ddellt. Yn ddigllawn syllai'r awyr wyllt Ar adfyd hon islaw , A'r mellt ddirmygai'igweddi daer Ymsaethent ym ' a thraw ; A taliai'r gwlaw - distawai'r gwynt, A'r sêr ddoent allan ar eu hynt.