Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

121 Y sêr o'i blaen i'r llyn ; Ei chalon dôdd-dyrchafai ' i chri— "O ! Arglwydd Iesu cadw fi." RHYDWEN. CERDD FFARWEL CAERLUDD . Mi ganaf yn iach i dre' Lundain, Sy ben dinas Brydain mewn bri, Gwyneddion a'r glân Gymreigyddion, Cyfeillion fu mwynion i mi, I Gymru â chanu cychwynaf, Er na chaf o glera fawr glod, Ond tra caffwyf gwpan a phentan Ni roddaf mo nghân yn fy nghod, Iach oll i dre' Llundain a'i bwydydd, Diodydd a'i ffrwythydd glan ffri, Iachusol yw bara ceirch Nantglyn, Llaeth enwyn a menyn i mi. Iach hefyd i'w rhwysg a'i hanrhydedd Gwisg falchedd a'r gwagedd i gyd, Niferoedd o gelloedd a gwylliaid, Puteiniaid, lladroniaid, lle drud, Segurwyr o dwyllwyr hyd allon', Chwaryddion arferion rhy faith, A gau opiniwnau pen weinion, Iuddewon, Pabyddion, pob iaith, Cael amlwg bob golwg bwygilydd, Gwnai fenydd dyn llonydd yn lli, Mi gym'raf y carnau rhag cornwyd, Y tir lle fy magwyd i mi. Iach hefyd i ffair Bartholomi, A'i holl ofer gerddi di goel ; O'r badell enbydus ei chrechwen, I'r dyn a'r crwth halen wrth hoel ; Ceir ynddi ryw foddi rhyfeddod, Gwylltfilod a chathod a cher, Echrysol niweidiol eu nwydau, Fu ' rioed fath grygleisiau gan gler ;