Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

122 Nid dyna'r fan gynes i ganu, Yr awen oer fferu wneiff hi, Yn Ngwynedd mwy doethedd gymdeithion Hedyddion mân mwynion i mi. Iach hefyd i dwrf yn Fleet- market, A'u llu ceg agored i gyd, Rhwng tôn y cigyddion a garddwyr, Pysgodwyr a baeddwyr y byd, Byddaru wna clustiau'r gwrandawyr, Rhwng gwylwyr neu wyr ar y wats, A hen Wyddelesau ceg oerion, Yn crio rhyw ' spredion o sprats ; Haloch i bawb rhag tre Llundain, Ail Bedlam i'n harwain yw hi, O dyrfau a nadau anned wydd : Rhyw fwth yn min mynydd i mi. Yn iach i'r Orllewin Fonachlog, Lle delwog cyfoethog go fawr, Iach hefyd i dri pharc y Brenin, P'le mae hyd orllewin well llawr, Iach hefyd i'r tŵr lle mae'r goron, Rwy'n foddlon i'r Saeson gael sen, Wrth gofio ' n Tywysog Llewelyn, Godasant i'w bigyn ei ben, Nid oes im' a wnelwyf a'u cynydd Ni pherthyn i brydydd gael bri, Mwy diddan o ran yr awenydd, Hen greigydd a moelydd i mi. Iach hefyd i'w holl bedeir-onglau, Heolau, mawr deiau mor deg, Eglwys-dai, chwareu -dai, masnach-dai, Darllaw-dai, dyfroedd -dai, difreg, A Thames anrhaethadwy drysorol, Marsiandiaeth tra buddiol o bell, E dd'wedir fy mod i yn ynfydu, Os galw allai Gymru'n lle gwell, Fy nghywion rydd imi groesawiad, Mewn cariad a'u llygaid yn lli, Mwy gwerthfawr na Llundain mewn hiraeth F' anwyl-blant a'u mamaeth i mi. MR. R. DAVIES