Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

OCHENAID YR HEN WMFFRA AR OL MABOLAETH.

Yr oeddwn yn ngwanwyn fy oes,
A blod'yn fy ie'nctyd yn llon,
Heb wybod am lymder un loes
I chwerwi melysder fy mron;
Na chynal un gofal yn ddyfal am ddim,
Ond chwareu'n galonog wych enwog a chwim.

Ar redeg i'r ysgol yr awn,
Ac yna i drin y "bèl droed",
Ac wrth ddyfod adref prydnawn
Y dringwn hyd gangau y coed;
Awn at y mór eilwaith yn llawen a llon
Esgynwn yr hwylbren—a nofiwn y don.

Yn fuan symudais fy lle,
Gan âdael difyrwch y plant,
A dilyn gwyryfon i'r dre,
I ymofyn difyrwch cerdd dant;
Awenau fy nwydau ollyngwyd yn rhydd
A rhedais yn nghanol pleserau fy nydd.

Ond och fy ieuenctyd mawr werth
Aeth ymaith fel ewyn y dòn,
O'r braidd cefais wisgo fy nerth
Cyn rhoddi fy mhwys ar fy ffon
Drychiolaeth hyll, araf, syn, llwyd, hurt, difri,
A'i enw yw HENAINT, a ddaeth ataf fi.

Cyffroi mewn cenfigen a wnaeth
Pan welodd fi'n chwareu mewn hoen,
Ac O! mor llechwraidd y daeth
I'm gwisgo à mantell o boen;
Ysgytwodd fy mhabell, rhyddhaodd bob hoel,
Mae'm dwylaw'n grynedig a'm coryn yn foel.

Ergydio mae'r gwanwyn yn hardd
Egwyddor o fywyd i frig
Pob coeden—pob maes a phob gardd
A chwarddant;—a gwerdd fydd pob gwisg:
Ond awel lem Hydref a'u gwywa hwy'n nghyd
A gedy y goedwig mewn pruddglwyf i gid.