Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Troswyf daeth, fal rhyw saeth, alaeth a dychryn,
Och! rhag bost bloeddiau tost ymffrost y gelyn:
Ond O! na lawenha, fel a wnai orchest;
Nid dy rym, ond dy ri' ddug i ti goncwest,
Ow! rhag braw'r dorf sy draw'n gwyliaw o'r drysau
Am lwydd cad Cymru fad,—rhad ar ei harfau!
Mewn gwyllt fraw i'r geillt fry, rhedy pob oedran,
Wrth wel'd brad gwŷr eu gwlad ar Forfa Rhuddlan.

Bryn a phant, cwm a nant, lanwant a’u hoergri,
Traidd y floedd draw i g'oedd gymoedd Eryri:
Yr awr hon y mae llon galon hen Gymru,
Am fawr frêg ei meib teg, gwiwdeg, yn gwaedu:
Braw a brys sydd drwy lys parchus Caradog;
Gwaeddi mawr fyn’d i lawr flaenawr galluog;
Geilw ei Fardd am ei fwyn delyn i gwynfan,
Ac ar hon tery dôn hen "Forfa Rhuddlan."!

Af yn awr dros y llawr gwyrddwawr i chwilio:
Am у fan mae eu rhan farwol yn huno:
Ond y mawr Forfa maith yw eu llaith feddrod;
A'i wyrdd frwyn, a'r hesg lwyn, yw eu mwyn gofnod,
Ond caf draw, gerllaw'r Llan, drigfan uchelfaith
Ioan lân, hoffwr cân, diddan gydymaith;
Ac yn nhy'r Ficar fry, gan ei gu rian,
Llety caf, yno'r af o Forfa Rhuddlan.
I G Geirionydd


Y MUD A'R BYDDAR.

Pa galon na theimla dros fyddar a mud,
Sy'n nghanol perseiniau heb glywed dim byd?
Yn ofer y sïa'r afonydd i'r rhai'n;
Y dyfnder, er rhuo, ni chlywant ei sain.