Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

134 Gadael gwlad y telynorion , y Trwm yw i mi, Gadael glân rïanod Meirion, Trwm yw i mi, Gadael Gwenfron, gadael Gwyndyd, Cadael pob diddanwch hyfryd, Yn eu lle cael môr terfysglyd, Trwm yw i mi. Nac anghofiwch , hen gyfeillion, Un fydd ym mhell, Nac anghofiwch Gyfaill ffyddlon , Pan fo ym mhell; Chwi rïeni llawn o rinwedd, Pan f'och wrth y bwrdd yn eistedd, y Cofiwch un oedd yna llynedd, Pan b'wyf ym mhell. Ar nosweithiau oer tymhesglog, Ow ! cofiwch fi. Fydd ar donau môr cynddeiriog, Ow ! cofiwch fi; Pan bo'r gwynt a'r môr yn swnio, Mellt yn gwau, taranau'n rhuo, Gwedwch, " Iach yw . Charles gobeithio !”" 'N iach oll i chwi. SIARL WYN O BENLLYN .