Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

138 GOFID MAM Sylwi'n ddwys ar ddyoddefiadau Baban nas gall ddweyd ei giwy', Gwel'd y dagrau'n gwlychu'i ruddian Heb un modd i'w hatal hwy ; Edrych ar ei agwedd dyner, Fel yn ceisio dweyd ei gam ; Sychu'i ddagrau- cofio'i finder Dyna ydyw gofid Mam. Eistedd wrth ei gryd nosweithiau, Olrhain llwybrau angeu du, Gwrando'r gwanaidd aml och'neidiau 'Nghyda'i fer anadliad gu ; Gwylio'r olaf ymdrech farwol, Teimlo gyda'r bach dinam ; Wedi'r ymdrech, methu'i adael Dyna ydyw gofid Mam. Gwel'd ei thyner rosyn gwiwglod, Er mor hoff, yn gwywo'i wedd ; Llithro drwy weddiau priod Dagrau fyrdd - i oerllyd fedd : Meddwl am ei roi i huno Gyda'r pryf, a chofio am Ei agwedd isel waelaidd yno Dyna ydyw gofid Mam. Ond, pan aiff y dòn fawr heibio, Pan lonydda cenlli'r fron. Ffydd a saif gan dawel dremìo Tua'r nef a llygaid llon ; Dywed, "Draw mewn ardal hyfryd Mae fy maban - ni chaiff gam ;" Cofio hyn ddiddyma'i thristyd Dyma symud gofid Mam. IEUAN O LEYN