Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

142 " Ust ! rho yma'th glust i wrando , “ Dir lliw'r hinon, y mae'n dryllio. " Gwrando , clyw y syw fun swynol, " Rho dy wên i'r dyn awenol : " Croenllefn ydyw, fel y crinllys " Ei glwys wenau," -medd GLASYNYS. Y FARN A FYDD. GWNA'n llawen , ŵr, o fewn dy fro, A chwardd tra dalio dydd ; Nac ofna neb, ac na thristâ, Ond cofia'r farn a fydd ! Mwynhâ bob pleser, myn dy chwant, Na ffrwyna'r trachwant rhydd ; Mewn rhwysg a gloddest treulia'th dda, Ond cofia'r farn a fydd ! Di'styra grefydd a phob da, A phoera'n wyneb ffydd ; Uddiwrth foesoldeb ymbellhâ, Ond cofia'r farn a fydd ! Myn bob difyrwch yn mhob man, Gwna'n ddyddan yn dy ddydd ; Mewn gwin a gwleddoedd llawenhâ, Ond cofia'r farn a fydd !