Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

144 "Y DERYN PUR. " Y 'Deryn pur a’i aden lâs Bydd imi was dibryder Obrysur frysia at y ferch Lle rhoes i'm serch yn gynnar Dos ti atti, a dywed wrthi, Fy mo i'n wylo'r dŵr du heli 'Mod i'n irad am gael ei gweled, Ac o'i chariad yn flaelu a cherdded O ! Duw faddeuo'r hardd ei llun, Am boeni dyn mor galed . Pan o'wn i'n hoenus iawn fy hwyl, Ar ddiwrnod gwyl yn rhodio, Canfyddais lodes lana" 'rioed Ar ysgafn droed yn troedio Pan y'i gwelais- syth mi sefais Ac yn fy nghalon mi feddyliais Dacw'r ddynes lana'r deyrnas A'i gwêdd yn harddu'r oll o'i chwmpas Ni fyn'swn gredu un dyn byw, Nad oedd hi ryw Angyles. MISS WILLIAMS, ABERPERGWM. "O GOLLWNG FI. " O gollwng fi dyneraf fam, Mae gorchudd angeu dros fy ngrudd ; Na foed i'th galon bur, ddinam, O'm hachos i ymdeimlo'n brudd ; Fel crogen wan wyf ar y traeth, A ddygir gan lifeiriol li', O flaen y gwynt y dòn a ddaeth, Mae'n sio, clyw, O gollwng fi. O gollwng fi, pererin wyf Addaethiweledbydowae;