Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

146 Y DDERWEN. Cydganwn fwyn gerdd i'r dderwen gref werdd, Brenhines gauadtrig y coed ; Boed iechyd a bri i'w choryn gwyrdd hi, Aboed felybuererioed: Bydd gwg ar ei hael* ar fachludiad yr haul, *Aol (brate Pan fo'i lewyrch yn gadael ei brig ; Hi ddengys ei nerth pan fo stormydd certh Yn chwiban drwy'i cheingciau yn ddig. Cydganwn yn fwyn i frenhines y llwyn Ei hail yn y glaslwyn nid oes ; Boed iechyd a bri i'w choryn gwyrdd hi A channoedd o flwyddi i'w hoes Yn yr amser gynt, pan f'ai dail gan wynt Yn suo rhyw dyner dôn, Y byddai, medd beirdd , lodesi heirdd Yn chwarae o gwmpas ei bôn : O ddydd i ddydd â chalon rydd Y dawnsient yn llaw a llaw ; Pa le mae y rhain ? Mae pob geneth gain Yn huno yn y fonwent draw. Cydganwn yn fwyn , &c. Hi welodd hoyw hynt yr hên bobl gynt Yn hwylio pob helynt yn hael, Pan f'ai telyn a chrwth yn mhob palas a bwth, A chroesaw i'r gwych a'r gwael ; Ond arian yn awr yw'r fwyn ddelw fawr Addolir gan bawb yn y byd ; Ond yfwn âg un llefi'r hên dderwen gref, Ei grymusder, ei phraffder, a'i phryd . Cydganwn yn fwyn , &c. TALHAIARN.