Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

147 Y MESSIA . DECHREUWCH gân wyryfon Sion werdd ; I bynciau'r Nef y perthyn gwychaf gerdd . Y ffrwd yn trydar- gwig yn gwatwar gwynt, Breuddwydion Pindus a'i awenau gynt, Ni foddiant mwy. Dwyfola di fy nghân A gwrddaist santaidd fant Esaia a than. Gan dreiddio i oesau i ddod dechreuai'r bardd . Ymddyga Morwyn Fab ! Blaguryn dardd O wreiddyn Jesse, ei flodeuyn pêr Gwasgara sawr o ddaear hyd y sér . Y dwyfol Ysbryd ar ei ddail a drig, A ch❜lomen Nef disgyna ar ei frig. Ti Nen, tywallta dy neithdaraidd wlith, Mewn gosteg araf hidla gawod flith ! Y llesg, a'r claf o'i rin dderbyniant les, Nawdd rhag ystorm, a chysgod rhag y gwres Diflana bai, dileir yr ystryw lwyd ; Adchwelol iawnder ei chlorianau gwyd ; Ar garnedd brwydrau tyf olewydd hedd, Cyfoda purdeb Gwynfa hen o fedd. Chwim hedwch flwyddau ! dwyre ddedwydd ddydd ! O rwymau nos tyr'd, faban, rhwyga'n rhydd. Gwel, Anian frysia i ddwyn ei thorchau fyrdd, A'r holl darth per anadla'r gwanwyn gwyrdd ; Libanus, gwel ei gopa tàl a gryn , A choedydd chwyfiawg ddawsiant ar y bryn : Gwel fwg per-lysiau'n derchu o Saron wen, A Charmel freiliawg grib bereiddia'r nen ; Clywch pa lais ban drwy'r anial mud sy'n bod, Par'towch y ffordd, mae Duw, mae Duw yn dod ? Mae Duw ! Mae Duw ! ateba llethri'r lef, Cyhoedda creigiau ei ymweliad Ef. Gwel ! byd a'i derbyn o'r uchelder crwm ! Fynyddoedd soddwch ! dwyrëed glyn a chwm : A brig plygedig, Gedrwydd, talwch ged, Ymlyfnha graig ! lif chwvrn i'th wrthol rhed !