Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

155 DIWEDD Y CYNHAUAF. TYMORAU ehedant, A blodau a wywant, A dail a orweddant Arhydyllawr; Medelwyr a ganant, Yd addfed a gludant, Adar ehedant Dros y mor mawr. Ar frys daw'r llym Aua' , Ei wynt a ysgythra, Pob peth o'i flaen rwyga,, Daw'n dywydd du ; Wrth dân goleuedig , O friwydd o'r goedwig, Bydd sionc a methedig, Yn llechu'n ty. Ar fyr yr ymlithra Fel hyn yr oes hwya', Fe dderfydd yr yrfa, Gwywa'r hardd wedd ; Dy wanwyn di ddarfu, Mae'th Hảf dithau i fyny; Down toc i auafu Idyybedd. CALEDFRYN. a