Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

156 MARWOLAETH IEUAN GLAN GEIRIONYDD . AR làn Iorddonen ddofn Y mynych grwydraist, Mewn blys myn'd trwy ac ofn Ond ti anturiaist ! A'r byw a'th welsant di Yn croesi' hymchwydd hi, Yn hedfan uwch y lli', I'r Ganaan welaist. Ti wyddit rymy dwr Cyn myned iddi, A gwyddet am y Gŵr Sydd Gyfaill ynddi ;; Os teimlet fel yn wàn, Llwyddianus fu dy ran, Cyrhaeddaist dawel làn Bro y goleuni. A ninnau welwn draw , Ar fynydd Seion, Yn iach heb boen na braw , Y cywir Gristion : Ar làn Iorddonen gref, Mewn hiraeth am y nef, Cân myrdd ei Emyn ef I'r dyfroedd dyfnion. CEIRIOG.