Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y CUSAN YMADAWOL.

Y cusan hwnw, eneth hardd
A ddodaist gynt ar fin y bardd,
A erys yno bythol mwy
I roddi idd ei fynwes glwy.

Adgofio wnaf y dagrau dwys
A dreiglent dros dy ruddiau glwys,
Pan ymgofleidiem enyd fach
Cyn dod yr awr i ganu'n iach.

Adgofiaf am y gwenau cu
Belydrent drwy y cymyl du,
Y rhai ymgasglent ar dy rudd
Fan wnaethom gynt ymado`n brudd.

Adgofio swyn dy eiriau per
A'th lygaid oeddynt fal y ser,
Sy'n gwneud pob siriol fan i mi,
Yn erch ddiffaethwch hebot ti.

Dysgwyliem ddedwydd dreulio'n hoes
Yn siriol ddau heb aeth na loes,
Ond och anedwydd siomiant ddaeth
Ar draws ein ffordd, a'n hysgar wnaeth!

Och'neidio'r wyf am wel'd dy wedd
Can's yn dy gwmni mae fy hedd,
Prysuro'n fuan wnelo'r pryd
Cawn eto gwrdd i fyw ynghyd.

DEWI MON, TY CRISTION.