Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wrth gofio'r dyddiau gynt,
Aent ar hynt fel y gwynt,
Ac ni welir mo'nynt mwy.
PYLL, Glan Conwy.


DIOLCH PLENTYN I'W DAD AM EI NODDI.

Wrth weled yr amddifad tlawd
Yn grwydryn croenllwm prudd,
Yn goddef newyn cur a gwawd,
A deigryn ar ei rudd;
A minau'n llon mewn dillad clyd,
Yn meddu pob mwynhad
Pryd hyn ce's olwg yn fy mryd,
Mor dda yw nawdd fy nhad.

'R wy'n clywed cri y crwydryn tlawd
Yn gruddfan dan y llwyn,
Heb dad, na mam, câr, chwaer na brawd,
I wrando ar ei gwyn;
Ond wele fi yn nhy fy nhâd,
Dan nawdd fy rhiant llon,
Yn gwledda ar ei roddion rhad,
Heb friwiau dan fy mron.

' R wy'n diolch it' fy anwyl dad,
O barch a chalon bûr,
Am it' fy noddi i mor fâd,
Rhag newyn, poen a chûr;
A thraethu im' am Iesu Grist,
A'r ffordd balmantodd ef,
Im' ddianc byth rhag uffern drist,
Aenddu Teyrnas nef.

Daniel Jones, Merthyr.