Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Na chrwydra, Gwen, y morlan maith
Pob deigryn, ofer yw;
Nis gwyr dy Gariad alar chwaith
Na gwae dy fynwes friw!
Uwch gwely'r heli nid oes gwyn
A ddeffey gwsg y Morwr Mwyn.

Dwg gysur clau—rhyw ddydd a ddaw
Y geilw'r udgorn arno ef
O eigion môr heb boen na braw,
Caiff uno ag eirian blaid y nef;
Dos at yr Iôn, taer weddi i ddwyn,
Cei eto gwrdd a'r Morwr Mwyn.
 GWENFFRWD.


PA BETH SY'N HARDD

Beth sy'n hardd? y tyner lili,
'N plygu'i ben dan bwysai 'r gwlith;
Pelydr haul disgleirdeg gwisgi,
'N dawdsio ar fron y rhosyn brith:
Hyn sydd hardd;—ond gwelaf wrthrych
Tecach, harddach nâ hwynt-hwy,
Deigryn merch uwchben amddifad—
Arwydd teimlad dros ei glwy'.

Beth sy'n hardd? y cwmwl golau
'Nofio yn yr awyr fry,
Pan fo disglaer wawr y borau
Yn goreuro'i odre cu:
Hyn sydd hardd;—ond, ah, canfyddaf
Rhywbeth harddach, er mor wiw,
Tremiad geneth yn arddangos
Calon serchog dan ei briw.