Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HEDYDD LON

'Rwy'n disgwyl am y dydd,
 Hedydd lon, hedydd lon,
O ddwyfron galon rydd;
 Hedydd lon,
A phan y daw mi ganaf
A thithau am yr uwchaf,
Yn llawen i'r cynhauaf,
 Hedydd lon, hedydd lon.

Mae'r gweiriau ar y llawr,
 Hedydd lon, hedydd lon,
Paham nas ceni ' nawr?
 Hedydd lon,
Ai'th gywion bach a laddwyd,
A'th nyth gan ddyn wasgarwyd,
A'th fron gan hiraeth dorwyd?
 Hedydd lon, hedydd lon.

Os galar ddaw i ti,
 Hedydd lon, hedydd lon,
I ddyn pa sail o'i fri?
 Hedydd lon,
Os gofid ddal mewn gaf'el,
Un esgyn fry mor uchel,
B'le ffy'r ymdeithydd isel?
 Hedydd lon, hedydd lon.