Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er colli ein tiroedd a'n hiawnderau
A’n breintiau gynt a'n bri,
Ein Nêr a folwn,
A’n hiaith a gadwn,
A gwaeddwn oll i gyd
Cymraeg am dano,ac Enw Cymro
A baro tra bo byd.

CAN Y BARDD WRTH FARW.

GWNEWCH imi feddrod wrth ffrydlif y mynydd,
Na cherfiwch un linell i adrodd fy hynt;
Yno telored glas-donau'r afonydd
Eu cerddi yn gymhlith a chwiban y gwynt!

Na chlywer un och lle mae'r prydydd yn huno,
Na choder un cofnod i ddangos y fan;
Yno na weler un serchawg yn wylo,
I dori a'i ddolef dawelwch y lan!

I bydru fi dodwch heb gwynfan na galar,
Diamdo, dienw ac unig fy ngwedd;
Na wedwch fy mod i mor drist ac edifar,
Wrth deithio i dawel ystafell y bedd!

Pan ddychwel y Gwanwyn,—uwch ben fy ngorweddle
Pored y milyn dywarchen fo gwerdd;
Pan chwyfia y grug yn awelon y bore,
Adar y moelydd a ganant fy ngherdd.

Iesu fy Nuw! yn y preseb a rwymwyd,
Maddeua fy nghamwedd, tro drallod yn hedd;
Ti'r hwn dros ddyn pechadurus croeshoeliwyd,
Cofia fy lludw yn nghilfach y bedd!

Pan seinio yr utgorn trwy'r nen ddychrynedig
Alargan ddiweddaf y ddaear a'r môr,
Gad imi orphwys lle can y gwaredig,
Gathlau i'th foliant—fy Ngheidwad, fy Ior!

 —GWENFFRWD.