Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CATHL IDD YR EOS.

PAN guddio nos ein daiar gu
O dan ei du adenydd,
Y clywir dy delori mwyn,
A chor y llwyn yn llonydd;
Ac os bydd pigyn dan dy fron
Yn peri i'th galon guro,
Ni wnei, nes toro gwawrddydd hael,
Ond canu a gadael iddo.

A thebyg it' yw'r Feinir war,
Sydd gymhar gwell na gemau;
Er machlud haul, er hulio bro
A miliwn o gymylau;
Pan dawo holl gysurwyr dydd,
Hi lyna yn ffyddlonaf;
Yn nyfnder nos o boen a thrais
Y dyru lais felusaf.

Er dichon fod ei chalon wan
Yn delwi dan y dulid,
Ni chwyna i flino ei hanwyl rai,—
Ei gwen a guddia'i gofid;
Ni phall ei chan drwy'r ddunos faith
Nes gweled gobaith golau,
Yn t'wnu, megis llygad aur,
Drwy bur amrantau'r borau.

PARCH. JOHN BLACKWELL. (Alun)