Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wennol bach, pa ham diengi
Draw oddiwrthyf? paid ag ofni;
Aros, bydd yn gyfaill imi—
'Rwy'n dy garu di.
Credu 'r wyf fod gennyt galon
Bur, ddiniwed, gywir, ffyddlon—
Peth anfynych ymhlith dynion:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Llawer blinder chwerw brofais,
Er y tro o'r blaen y'th welais,
Wennol fwyn, a llawer gwynais—
P'odd ymd'rewaist ti?
A fyddwch chwi, wenoliaid, weithiau
Yn cyfarfod â blinderau,
Nes troi'ch twi, twi, twi, 'n gwynfannau?
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Mi ddymunais, wennol lawen,
Ganwaith feddu ar dy aden,
I allu hedeg yn y wybren
Uwch y byd a'i gri:
Ymryddhau oddiwrth helbulon
Bywyd dynol, a'i ofalon,
Ac fel tithau, 'n iach fy nghalon,
Canu uwch eu pen—Twi, twi.

Mae'th ddyfodiad, addfwyn wennol,
Ini'n dysgu gwersi buddiol,
Ar bob tymor yn olynol,
Yr ymweli â ni.
Wyt yn adwaen dy dymorau,
Ac yn cadw dy amserau—
"Cym'rwch rybudd, gwnewch fel finau,"
Ydyw 'r llais ym mhob twi, twi!