Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

65 "Gyrir fi yn awr yn erwin, Ac esmwythder ddim ni chaf ; Cefais ddigon ar y gwanwyn ; O na ddeuai hyfryd hâf." Daeth yr hâf: a ydyw'r asyn Wedi caffael dyddiau gwell ? Na, nid yw'n foddlonach ronyn ; Hawddfyd sydd oddiwrtho ymhell : Achwyn mae â'r nâd druanaf, "Ochygwaith;acochygwres; O na ddeuai y cynauaf ! Dyna dymmor llawn er lles." Daeth yr hydref- ond siomedig Ydyw'r asyn dan ei lwyth : " Druan oedd fy nghefn blinedig ! Wedi'r hâf rhaid cludo ei ffrwyth ; Cyrchu tanwydd erbyn geuaf, Cario mawn a chario coed ; Och ! yn nhymmor y cynauaf, Blinach ydwyf nag erioed !' Wedi troedio cylch y flwyddyn Mewn anghysur dwys o hyd, " Gwelaf bellach," medd yr asyn , " Nad mewn tymmor mae gwyn fyd : Yn lle achwyn ar dymmorau, Fel y maent cymeraf hwy ; Dynafelydawhiorau; Felly byddaf ddiddig mwy !" Parch. R. EDWARDS. E