Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

68 'Rwy'n fachgen ifanc ' ran fy oed, Ni ŵyr fy nhroed p'le i droi , A'm pen yn rhydd , a'm calon brudd, 'Rwyf heno wedi'm cloi . Pe gwyddai'm hanwyl fam fy hun Ple ' rwyf y noswaith hon, Fe fydda'i chalon bach yn brudd , A briw o dan ei bron. 'Rwy'n meddwl am fy anwyl fam , Bum ar ei deilun hi Yn sugno llaeth o'i hanwyl fron, — Mor anwyl oeddwn i. Er hyn i gyd, ' rwyf yma'm hun, Yn wael fy llun a'm lliw ; Heb fedru deall iaith y wlad, Wedi colli'm tad a'm Crew. Pe gwyddai'm hanwyl fam fy hun Mor drwm yw arnaf fi, Ni fedraf lai na meddwl hyn, -- Fe dd'rysai'i synwyr hi. Er hyn i gyd, ' rwyfeto'n fyw, Trugaredd Duw, ' rwy'n iach : ' S cai long i fyn'd i Loegr dir, 'Dai byth o Gymru bach . Cytir. THOMAS OWEN.