Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

72 Gan barhau'n ddiwyd drwy bob hin Nes darfod blin oes dydd ? Y cyflog melus ddaw i'w ddwrn Y lon nos Sadwrn sydd. Gan yr uchelwr mae ei barch Yn ailifarchneuful; Pob un yn cerdded hyd ei ben, Ail pont -bren ceubren cul ; A phlant ei feistr, c'yd a'i goes, Rydd iddo loes neu lach; Ond caiff nos Sadwrn gartre'i hun , A bod yn frenin bach. Os ydyw'r gweithiwr gwael tylawd, Trwy ganol gwawd a gwyn, Yn gweithio'i wythnos yn ybyd Yn ddiwyd ddiwyd ddyn, A llygad dyfal gwlyb a sych Ynedrych at y nôd : y O ! gydymdeithion tua'r bedd, Beth ddylai'r fuchedd fod ? Os ydyw'r boenar dònau'r byd, A'rgofid yn lled gas, Mae'r Meistr yn eiriol yn y ne', Fe gyrchir adre'r gwas : Er bod fy llwybrau'n llawn o ddrain, Ces f’arwain etto'n fyw : Yndawel am gysgodau'r nos Rhaid aros : wythnos yw. Wrth ddechreu wythnos einioes fer, Aeth llawer ar ddydd Llun I lawr i orwedd yn y bedd, I'w hannedd oer eu hun : Dydd Mawrth aeth ambell rosyn pêr, A Mercher fwy na mwy ; Ond beth ym nisy'n aros nes, 'Does ond eu hanes hwy. Dydd Iau a Gwener wedi hyn, Ilawrybrynynbrid;