Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

73 Y gewyn nerthol sy'n gwanhau, Fe gyll y gruddiau'r gwrid ; Ni cheir yn awr ond ambell ddant, Fy ffyniant aeth i'r ffos ; Mae pyldra'r llygaid im' bob dydd Yn arwydd am y Nos. CAWRDAF. PLENTYN Y MORWR . CYFEITHIAD. Mam, pa le mae'n cartre ni, Rhyw lanerch i orphwyso ? Gyda choedydd yma a thraw, A blodau i'w haddurno. Paham gadawai 'nhad ni'n dau, Mor hir fel hyn, —mor unig ? Nid ym yn cael ymgom na dim, I'n lloni -mae'n beth chwithig ! A wŷr o ddim p'le'r ydym ni , Ai'n ofer chwilia am danom ; Neu ᎩᎳ ef heb ofalu dim Am ddyfod eto atom ? Fy mhlentyn, caethwas i'w dy dad, Gorthrymwyr a'i dyg ymaith ; Och felldith ! ust, dystewi a wnaf, Ni feiaf ddofn Ragluniaeth !