Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn nyffryn Conwy mae fy nhad
Yn nghanol mad gyfeillion,
Ac yno bydd nes geilw Duw,
Ar alwad, wyw farwolion:—
Cael benthyg bedd wrth ystlys hwn
A wir ddymunwn inau,
I orphwys nes daw'r meirw'n ol
O garchar ingol angau.

Braidd &c

Llansantffraid JOHN JONES.


"MAE NHAD WRTH Y LLYW."

Draw, draw ar y cefnfor, ar noson ddu oer,
'Roedd cwch bach yn hwylio heb seren na lloer;
A rhuad y tonnau, a'r gwyntoedd, a'r gwlaw,
A lanwai fynwesau y morwyr o fraw.

Ond bachgen y cadben, yn llawen a llon,
A dd'wedai dan wenu, heb ddychryn i'w fron,—
"Er gwaethaf y tonnau awn adref yn fyw:
Pa raid inni ofni?—Mae Nhad wrth y Llyw.

O blentyn y nefoedd! Paham mae dy fron
Mor ofnus wrth weled gwyllt ymchwydd y don?
Mae'r dyfnder du tywyll yn rhuo, gwir yw;
Ond diogel yw'th fywyd—Mae'th Dad wrth y Llyw.

Daw'n fuan orfoledd diddiwedd i'th ran;
Draw'n disgwyl mae'th geraint oddeutu y lan:
Y disclaer lys acw, dy hoff gartref yw;
Mae Canaan yn ymyl, a'th Dad wrth y Llyw.

Cwyd bellach dy hwyliau, mae'r awel o'th du,
'Rwyt bron mynd i fynwes dy fwyn Brynwr cu;
Mae'th angor yn ddiogel, a'th Gadben yn fyw,
Mae'th gwch yn y porthladd, a'th Dad wrth y Llyw.

—Parch S ROBERTS