Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

85 Yn hen a gwael, yn wan a gwyw, O mae hi'n oer. Un mynyd awr i mi nid oes, Ond chwerw lid a chur a loes ; Ni charaf fyw yn chwerw f' oes , O mae hi'n oer! Ni fynwn fyw o fan i fan, O mae hin'n oer, Yn llusgo corff mor llesg a gwan, O mae hi'n oer. Ar hyd y nos mae'n rhaid yn awr I'r awel lem fy nghuro i lawr, Dan boenau dwys bob enyd awr, O mae hi'n oer. Er chwennych bod mewn hynod hedd , Claf yw fy nghorff, cul yw fy ngwedd ; Rwy'n wers i bawb yn nrws y bedd , Omae hi'n oer! Mewn blinaf wynt heb lo neu fawn, O mae hi'n oer. Heb dân na gwres, heb ŷd na grawn ; O mae hi'n oer. Pwy ddaw a'i rodd ? pwy ddyry ran O'i ddoniau'n gu i ddynyn gwan, Nafynaifyn'dofanifan? O mae hi'n oer. Ni flina'i neb fel hyn yn hir, Mae'r bedd ger llaw mewn dystaw dir,