Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

87 1 Y BWTHYN MYNYDDIG. Mynyddau bán ysgythrog sydd Yn gaerog dorch o gylch fy llanerch, Lle mae murmurog ffrydlif rydd Ac adsain megis yn ymannerch . Yr harddfrith goron uwch y pen, Yw eira, rhew, a thrwyth cymmylau ; A bolwyn niwl, yn hwyrol len, Yw gwlanog addurn eu hymylau . Pan guddia nos y faenol werdd, A theg lusernau'r nef yn wychion, Gordroellog gurwynt chwyrn wna gerdd Yn nghrombil holltau'r creigiau crychion. Tabwrdd ystorm yw muriau'r ty, Tra duon aeliau'r hwyr yn cuchio ; Chwim folltau mellt a chenllysg lu, O'r uchelderau sy'n ymluchio . Ymrwyga'r nen, ymsigla'r llawr, A'r Iloer mewn caddug yn ymdduo ; Ymhyrdda crôch daranau'n fawr, A thwrf y corwynt yn ymruo. Er hyn wrth dân o fawn heb sèn, Y tylwyth sydd yn ymddiddanu ; Fy mam a'i throell , -gwna'm tad lwy bren, Tra'm chwaer yn gwau a minau'n canu. O ! dyma grwydryn ar ei daith, Ac angen arno ei achlesu ; Rhoi iddo fwyd sy hyfryd waith, Yn nghyd a gwely i'w gynhesu . A chyda'r wawr daw'r heulwen iach, A dorau'r dwyrain yn agori : Caf arwain fy niadell fach Gerllaw'r grisialaidd ddwr i bori.