Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

89 Yn ei flaen â'n syth, ac ni chilia ftewyn : Gad byth, fel yr eryr, fy machgen , fod Dy hediad fry, yn syth at y nod . Mam, beth yw hwna ? Yralarch, fy nghariad, O'i allt gynhenid i lawr mae ei nofiad ; Heb nythle'n agos, na char iddo 'nawr, I farw'n unigaidd y nofia i lawr ; Ei lygaid a geuir, a threnga'n lân, Ond ei olaf yw ei felusaf gân : Bydd fyw fel y gelli, fy nghariad llon, Bêr ganu wrth adael y fuchedd hon. PARCH. D. L. PUGHE. TERFYN DIWRNOD HAF . Here, scatter'd wild, the lily of the vale Its balmy essence breathes ; here cowslips hangs The dewy head, and purple violets lurk With all the lowly children of the shade. Mor hyfryd ydyw rhoddi tro Ar derfyn d'wrnod ha', Hyd feusydd têg ryw wledig fro, Lle nad oes haint na phla. THOMPSON. Ar fin y ffordd mae'r blod'yn bach A elwir llygad dydd," 66 Yn gwylaidd ofyn, Ydych iach ? A deigr ar ei rudd. A'r dlôs friallen , hithau sy Yn cyfarch yn ei hiaith, Gan ddw'eyd " I'm ffiniau dewch yn hy' Eich lloni yw fy ngwaith." Iach lysiau'r maes mygdarthu maent, Yr hwyrol awel bêr