Tudalen:Dyddgwaith.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dôi ambell un ŷn ei ôl wedi dysgu rhai o arferion y tramoriaid hynny, meddid, megis hwnnw a ddaeth adref o'r Cyfandir wedi tyfu barf ac yn gwisgo dillad tra gwahanol i'r rhai cartref. Tynnai'r pethau hyn gymaint o sylw ato, yn enwedig ymhlith y plant, nes iddo dorri ei farf a newid ei ddillad yn fuan, ac am a wn i na bu'n fachgen eithaf synhwyrol o hynny allan.

Eto, chwarae teg i'r rhai fydd yn mynd i rodio. Diau yr âi llawer ohonom pe gallem, ac nid oes wybod pa bethau a ddysgem ninnau. Nid bob amser y bydd y daith yn ddigon hir a hamddenol i ni ddysgu rhyw lawer. Yn gyffredin bydd gan y neb a fu yn Rwsia, dyweder, am ryw bythefnos lawer rhagor i'w ddywedyd am y wlad a'r bro dorion a'u syniadau a'u harferion nag a fydd gan y sawl a dreuliodd flynyddoedd yno. Ac erbyn ystyried, rhaid addef bod yn haws iddo ef gofio pethau nag i'r llall.

Gall trafaeliwr brysiog felly gofio ar hyd ei oes fel y bu rywdro'n yfed tê yn Ffestiniog, dyweder; gwin yn rhywle yn Ffrainc, coffi neu fastig yn Cairo. Os digwydd bod y bwrdd dipyn yn ddi- drefn neu'r te yn oer neu wedi stiwio yn Ffestiniog, dyna dystiolaeth sicr na ŵyr y Cymry