Tudalen:Dyddgwaith.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar ôl yfed mastig a gwrando ar ystori "Dwyn y Gaseg."

Wedi'r cwbl, "coelum, non animum, mutant qui trans mare currunt," ac ni ddygir dyn oddi ar ei dylwyth. Palmwydden neu ddwy yn y pellter tesog, a'r crwydryn yn cofio, nid yn gymaint am ramantuster masw Heine ag am ddawn gyfieithu ryfeddol John Morris-Jones. Colofn fwg y Bedawin ar ganol yr anialwch, neu haid o bererinion ar y ffordd adref o ddinas Mecca, a'r crwydryn yntau'n meddwl am Ann Gruffydd ac Emrys a'u hemynau, a luniwyd mewn gwlad brin o dywod ac awyrgylch dawel, gysglyd, ac nad oes ynddi mwy bererinion a chanddynt un syniad am odidowgrwydd troi amser yn was yn hytrach na'i gymryd yn feistr. Toriad gwawr ac ymachlud haul dros yr anialwch maith, ugain milltir i'r de o ddinas Cairo; cromennau a meindyrau'r ddinas honno o bell megis rhithiau yn nofio yn yr "awyr denau eglur a'r tes ysblennydd tawel" y daliodd Ellis Wynne gynt eu tebyg ar dro yn rhwyd ei Gymraeg ddigymar.

Ac eto, ni fynnai'r crwydryn golli mo'r llif newydd a ddôi mor ebrwydd o hyd i'r mân