Tudalen:Dyddgwaith.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar y traeth, gan chwydu eu trochion i'r lan fel "gloes sarff yn gla' o syrffed." Nid oedd dŷ nac adfail a welid yno na wyddai fy nghyfaill rywbeth amdano. Yma, cartref ei hendaid. Acw, tŷ a gododd ei daid, lle ganed ei dad, lle ganed yntau. Cartrefi teulu ei fam yn y pellter. Traddodiadau amdanynt oll, yn gwlwm â hanes yr ardal am ganrifoedd. Nid rhyfedd ddywedyd o'm cyfaill y byddai'n fodlon pan ddôi yno o unman yn y byd, ac na byddai arno byth eisiau ymadael â'r lle, unwaith y dôi yno. Yno yr oedd ei wreiddiau. Adwaenai bob pren a maen yno. Ardudwy oedd Cymru iddo ef.

Minnau? Ni bûm hanner dwsin o weithiau erioed yn hen gynefin fy nhadau. Bedair cen hedlaeth a mwy yn ôl, dechreuasant hwy symud, ac aethant ar led y byd. Adroddid hanes rhai ohonynt ym mrwydr Waterloo; un arall a brynwyd o'r fyddin gan ei dad a'i fam, ond a oedd yn filwr yn ei ôl cyn pen y mis, ac a fu farw ar ei ffordd adref o Rwsia. Byddai llythyrau'n dyfod oddi wrth rai o'r crwydriaid weithiau oddi yma ac oddi acw. Cedwid a danfonid hwy o law i law i'w darllen. Clwyfwyd a lladdwyd rhai o'r hil yn America yn y rhyfel rhwng taleithiau'r De a'r