Tudalen:Dyddgwaith.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gogledd. Yr oedd rhyw ramant i ni gynt mewn llythyr a gadwyd, a sgrifennodd un ohonynt â'i law ei hun at ei chwaer, fy nain, yn adrodd hanes ei glwyfo yn y rhyfel hwnnw—ei saethu drwy ei law nes syrthio ohono oddi ar ei farch; carlamu ymaith o'r march; gorwedd o hono yntau lle syrthiasai, fel marw; tybio o'r gelyn mai marw ydoedd a gadael iddo; ymlusgo ohono yntau wedyn at lwyn gerllaw, a dodi ei law glwyfus yn nwfr ffynnon oedd yno i oeri; yna colli gwybod arno'i hun. O'r diwedd, dyfod o hyd iddo gan rai o'i blaid ei hun, yn ddiymwybod yno, a'r ffynnon yn goch gan ei waed. Hanes hynt eraill, a ymfudodd i'r Amerig, ac a fyddai'n methu deall pam yr oedd neb o'r tylwyth mor ffôl ag aros yn yr hen wlad i dalu rhenti a threthi at gadw ffyliaid a chnafon, meddynt hwy. O blaid mynd. ar eu holau y byddai'r gwaed ifanc, wrth gwrs— onid yn y pellter yr oedd rhyddid hefyd?

Nid cof gennyf am y tŷ y'm ganed ynddo. Llai na deng mlynedd fu cyfnod y cartref cyntaf i'w gofio. Trydydd a phedwerydd mewn ardaloedd digon pell i fod yn ddieithr. Yna, y byd mawr, trefi prysur, mwy nag un wlad, pobl o bob cenedl, crap ar eu harferion a rhai o'u ieithoedd.