Tudalen:Dyddgwaith.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PRIN yr wyf yn cofio pa bryd yn union y dysgais ddarllen. Daw'r enw "John Halifax," a sôn am ryw "Josi" i'r cof o'r cyfnod hwnnw, dim ond yr enwau, a rhyw bang bach o chwithdod am rywbeth a fu ac a aeth heb adael ond enw ar ei ôl. Tebycaf yw mai rhywun arall fyddai'n darllen allan i mi'r pryd hwnnw. Sut bynnag, yr oedd hynny ryw ysbaid cyn y diwrnod yn nechrau haf, pryd yr oedd yn rhaid i mi aros yn fy ngwely, o achos rhyw anghaffael a fu'r diwrnod cynt, a'r pryd y teimlais fy mod eisoes wedi dysgu rhywbeth rhyfeddol, rhywbeth tebyg i ddyfod o hyd i fyd newydd.

Edrych yr oeddwn y tro hwnnw drwy gyfrolau o gylchgrawn bychan i blant—pethau prinion yr adeg honno. Yr oedd yno sôn am wŷr enwog a da nad oeddynt, am ryw reswm, yn fy nifyrru. Yr oedd lluniau rhai o'r gwŷr da hyn, eu golwg ddifrif a'u barfau helaeth, yn peri i mi ofni na allwn i byth fod yn dda fy hun. Un llun oedd yno a hoffwn—yr oedd hwnnw wedi tynnu fy sylw o'r blaen, a gwnaeth yr un peth y tro hwn eto. Llun "Y Cleddyfwr yn Marw" ydoedd.