Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dyddlyfr 1941.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mawrth 11. Heno, wedi pum darlith, a dwy awr o Bwyllgor Trethi, dringo ac adre. Swpera. Ust.! Awyrblan? "Dyna nhw eto," medd Luned. "Ie: gewch chi weld, ac fe ddaw cri'r Seiren."

Do: fe ddaeth, a diasbedain.

Trwy'r drws, ac allan. Noson gannaid olau, ddi-gwmwl, a lleuad yn cerdded ei phreswylfeydd di-lwgr. I fyny'r ffordd at y "Friars." Luned yn galw . . . " Ambrose, dyma nhw, welwch! Tân mawr!" Troi yn fy ôl. . . . Sbïo. Ie: tân, tafodau a fflamiau yn dringo ac yn drysu drwy'i gilydd, . . .draw tua'r Waunfawr neu Ryd-ddu. "Y Cefn Du," medd A.R. Syllu yn fud a hanner dall, ar wrid yr oddaith fflam-goch. Ymwrando . . . â sŵn ffrwydriadau a saethu, . . .bwm! bom! . . .chwa o adlais. Distawrwydd dwfn, a'r tân yn llosgi'n farwor. Tawch, a diffodd! Digwydd, darfod. Gwaredigaeth!—o safnau'r ffwrn dân.

Mawrth 12. Newydd da! Ar fynydd noeth y disgynnodd y tân neithiwr, heb anaf i ddyn na chreadur. Darlithio'n ysgafn fy mron. Llythyr i mi yn y Coleg-oddi wrth T.I.E., yn diolch am Ddyddiadur 1940. Eisoes, wedi ei ddarllen ddwywaith; ac yn edrych ymlaen, medd ef, am Ddyddiadur 1941. Y llythyr cyntaf am y llyfr bach. D'oedd dim bai arno fe!

Mawrth 14. Adre erbyn un, a chiniawa. A ninnau oll wrth y bwrdd, dyma'r Faeden. Cyffro, ond heb ddychryn gormod, ag eithrio Dai, sy'n hel swp o ddagrau i grio. Gafael amdano, "dere di, Dai bach. Paid â chrio, 'ngwas bach i . . . " Sych y dagrau â'i lewys ac â chefn ei law. Anadla'n iach ac anghofio'r cwbl. Ar ben yr awr, daeth y "sŵn da," chwedl Dai; â'r plant i'r ysgol yn gopog iawn.

Rhwng saith a naw, yn fy Nosbarth W.E.A., yn sôn am fywyd pob dydd yn Nyddiau'r Tuduriaid. Mor anghofus o'r byd a'r bywyd sydd yr awr hon! Dyna dorri ar ein trafodaeth. Tewch â sôn . . . y Faeden sgrech! Penderfynu chwalu.

Adre am swper, ac yn ôl i'r ffordd. Edrych i fyny. Trwch o fân gneifiau yn tapestrïo'r wybren rhyngom â maith gyniwair gwrdi-gwrdi'r awyrblaniau. Ninnau'n mynd a dyfod, dyfod a mynd, ôl a blaen, fforddolion yn rhynnu mewn cotiau mawr. Pob un yn troi i'w dŷ yn awr ac eilwaith, i dwymo'i ddwylo;