a G.R. yn dra gofalus i fynd i wrando newyddion hanner nos! Tuag un y bore, chwalu, a Luned wedi aros i lawr drwy'r amser i'm disgwyl.
Mawrth 19. Bechgyn a merched yr ail flwyddyn yn yr ysgolion yn dysgu. Ninnau'n ymweld â hwy bob yn ail â darlithio i'r lleill. Wedi tair darlith y bore, i Lanfair Fechan. Gwrando ar ddwy neu dair o wersi. Purion.
Cip ar y papurau. Heddiw yr adroddant ganlyniadau'r "cyrchoedd " a hebryngwyd dros ein pennau yr wythnos ddiwethaf. Hyn—nos Fercher a nos Iau, tua Lerpwl, lladd 500, clwyfo'n dost 500 arall; nos Iau a Gwener lladd 500 ar lannau Clyde, clwyfo 800. Gwaed y gwirion! O ryfela, rhyfela, ddydd a nos, a'r nos yn bennaf, ac yn erbyn gwragedd a phlant. "Rhyfel yw rhyfel" oedd yr hen arfer, gyda'i anrhydedd a'i sifalri. Bellach, rhyfel yw uffern, un arall o ddarganfyddiadau'r Ugeinfed Ganrif. Llygad am lygad, dan yr hen oruchwyliaeth; uffern am uffern, dan y newydd. Er mwyn rhyddid? . . . cyfiawnder? . . . gweriniaeth? Taw â sôn. Dychwelyd dan y nenbren. Sŵn plant piau hi; pob un a'i gam a'i gymwys, a Dai wedi dyfeisio enw newydd ar Siop Woolworth, y "Siop Goch." Onid cymwys?
I law, pwtyn o lythyr o'r De, yn "diolch am 1940' a'r Pythefnos, ac yn rhoddi'r unfed gorchymyn ar ddeg i lawr—Cedwch ymlaen am y Rhyfel . . ." Pwy? Di-enw, ond hyn—"Waeth pwy?"
Mawrth 24. I Ysgolion Llandudno drwy'r dydd. Prifathro un ohonynt yn flin am imi "daflu cwmwl" dros ysgol neu ddwy yno, yn Nyddiadur 1940. Cyfyd oddi wrth y bwrdd, a dengys y frawddeg imi. "'Dyw hi ddim yn deg! . . . yr argraff nad oes gweithio o blaid y Gymraeg. Gwn, mi wn! Oni wn i'n dda? . . . fod cystal gweithio yn ei ysgol ef ag yr un yn y ddwy Sir? A Chymry da yn Llandudno? Ar bob cyfrif, a glewion yn y gad bob un. Na, nid dihidio bawb yn Llandudno.
Mawrth 25. I Ysgolion Penmaenmawr a Chapel Ulo. Ar ginio, darllen llyfr Maurois: Why France Fell. Tra diddorol, ond ingol dost. Ei gerydd yn gytbwys gyrhaeddgar, a'i bawen yn dyner fel palf cath, wrth sôn am Loegr. Hawdd deall na bydd iddo groeso yno. Bydd llyfr Elie Bois, Truth