Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dyddlyfr 1941.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

on the Tragedy of France, yn llawer mwy derbyniol yno. Onid oes gair a ddywed?—Cân di bennill mwyn i'th nain, fe gân dy nain i tithau.

Cip ar y papurau hefyd:—Si bod Iwgo-Slafia am arwyddo cytundeb â'r Echel, er ofni rhwyg yn y Llywodraeth, a thwrf yn y wlad. Beth nesaf? Hitler i ymosod ar Roeg, ac arllwys ei luoedd aml-arfog am ei phen? Rwsia? . . . a ddaw hi o'i chragen? . . . ac ym mha liwiau?

Mawrth 29. Daeth yn wyliau eto. Marcio papurau,—penyd-wasanaeth! A gynlluniwyd, a ddaeth i ben,—Coup d'Etat yn Iwgo-Slafia. A'r papurau Seisnig, parchusaf, yn ei alw yn "deyrnged i gymeriad a gwir weriniaeth yr Iwgo-Slafiaid." Atolwg, penaethiaid y fyddin a'i gwnaeth! Gwyn eu byd y gwirion a ymbortha ar y ffiloreg hon.

Diwrnod pyglyd, pigoer, a'r mynyddoedd yn guchiog dan lwythi o eira. Gwaethaf dydd, y Sadwrn. Y plant yn ennill eu gwres wrth neidio a rhedeg, galw a gweiddi, a'r Dewi dwyflwydd gystal â'r un. Nid na ddaw i mewn weithiau i dwymo'i ddwylo cochion. Daw, ar golli ei anadl, a Luned yn ei gymell i wisgo cap yn dynn dros ei ben a'i glustiau . . . onidê "bydd Dai bach yn mynd yn sâl, a marw, a "bydd dim Dai bach i gael wedyn." Yntau'n codi ael, a gollwng,—"bydd Mama'n gallu plynu Dai bach alall yn y . . Siop Goch!" I'w ryfeddu!

Canol y prynhawn, dwm! . . . dwm! . . . Cyngor y Dref yn gorymdeithio'n drystiog, i agor yr Wythnos Arfau." Pobl yn heigio o bob cwr. Minnau'n marcio. Rhaid i'r plant gael mynd, debyg iawn. A'r forwyn mor falch â hwythau. Eu llygaid yn serennu gan y sŵn meddw. Dwmp di-damp i'w ganol. Dônt yn ôl toc, am y ffraethaf, pwt gan un a phwt gan y llall; a Dai wedi sylwi'n arbennig ar "y dyn â ffroc ganddo." Milwr mewn kilt!

Mawrth 31. Cawr o fore gwyllt. Mawrth yn "mynd allan" fel llew. Cer'! Naw wfft i'r marcio 'ma, hefyd.

Dau lythyr: un oddi wrth Orsaf Feistr "Cyffordd Dyfi," yn diolch am y Dyddiadur. Diolch? ac yntau wedi talu amdano!

Y llall oddi wrth "A," dim ond deunaw tudalen! A'i dweud hi, 'te, yn garlamus. Melltith ar y Blaid Lafur;